English

Lle Gwybodaeth

Rhyddid i Fyw Heb Ofn - ni ddylid anwybyddu cam-driniaeth yn y cartref

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan a llinell gymorth newydd i gefnogi'r rheiny sy'n dioddef cam-drin yn y cartref.  Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am beth yw camdrin, sut i adnabod arwyddion o gam-drin, ofnau pobl sy'n dioddef cam-drin, amddiffyn plant, chwalu'r chwedlau ac ymhle y gellir cael help a chymorth.  Ewch i'r wefan Byw Heb Ofn

Y Cyngh. Graham Brown a Terry Flynn (Swyddog Tai Fforddiadwy) yn lansio'r cynllun gyda staff Lloyds TSB.

Cyngor Sir Powys a Lloyds TSB yn helpu prynwyr tro-cyntaf lleol

Mae Cyngor Sir Powys, mewn partneriaeth gyda Lloyds TSB, wedi lansio menter yn ddiweddar i helpu prynwyr yn y sir.

Dan y cynllun newydd, bydd prynwyr tro cyntaf yn gallu sicrhau cyfraddau morgais manteisiol a thalu blaendaliadau llawer yn is. Bydd y cynllun yn berthnasol i brynwyr tro cyntaf yn unig, ac i eiddo sy'n bodoli eisoes yn unig, hynny yw, nid tai newydd sbon neu rai hunanadeiladu. Hefyd, wrth gwrs, mae meini prawf benthyca Lloyds yn golygu mai £175,000 fydd uchafswm gwerth y benthyciad.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

Canllawiau'r DG ar weithgarwch corfforol.

Ydych chi'n gwybod faint o weithgaredd corfforol y dylech chi fod yn ei wneud er mwyn cadw'n iach?  Mae canllawiau newydd o'r Adran Iechyd ar gael ar gyfer grwpiau iechyd amrywiol o'r rhai dan 5 i'r rhai dros 65.  Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r canllawiau ewch i wefan yr Adran Iechyd

Archwiliad Iechyd Ariannol

Eisiau gwneud y mwyaf o'ch arian?

Mae'n haws nag yr ydych yn ei feddwl. Atebwch ambell gwestiwn syml amdanoch chi a'ch arian a bydd yr archwiliad iechyd cyfrinachol am ddim yn dangos i chi mewn camau hawdd i'w dilyn yr hyn y gallwch ei wneud. Dim ond 5- 10 munud y bydd yn ei gymryd ac ni fyddwch angen unrhyw waith papur. Ewch i https://healthcheck.moneyadviceservice.org.uk/? i ddechrau

Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd

Mae cymorth ar gael i deuluoedd sy'n agored i niwed ym Mhowys er mwyn eu helpu i wneud newidiadau positif i'w ffordd o fyw er budd y plant a'r teulu cyfan.

 Cliciwch yma i ddarllen mwy am y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ym Mhowys 

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. 

Cynllun i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref

Cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Nyth, i wneud cartrefi’r sector preifat yn lleoedd cynhesach ac yn iachach i fyw. I fod yn gymwys am Asesiad Tyˆ Cyfan gan Nyth, mae’n rhaid bod yn berchen cartref neu’n rhentu’n breifat, yn derbyn budd-dal ar sail prawf modd ac yn byw mewn eiddo ynni aneffeithiol gyda graddfa effeithiolrwydd ynni o F neu G.

Am ragor o wybodaeth ewch i  wefan NEST 

Gwasanaeth Gwybodaeth newydd y GIG i Rieni

Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth y GIG i rieni yn rhoi cyngor dibynadwy i famau a thadau ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â beichiogrwydd, paratoi i roi genedigaeth ac edrych ar ôl y baban.  Trwy gofrestru a’r gwasanaeth ni fyddwch yn gorfod wynebu’r doreth o wybodaeth sydd ar y rhyngrwyd, ond cewch gyngor priodol, amserol gan y GIG yn syth i’ch ffon a’ch e-bost.  Mae hyn yn cynnwys dolenni i fideos a gomisiynwyd yn arbennig, sy’n dangos bydwragedd yn rhoi cyngor arferol megis sut i fathio’r baban, a rhieni’n trafod materion sydd o bwys iddyn nhw a sut y gwnaethant gefnogi ei gilydd.  Cael cyngor a gwybodaeth reolaidd yn ol oedran eich baban.  Bydd ein negeseuon e-bost yn eich cysylltu â dros 100 o fideos, sy’n dangos arbenigwyr yn rhoi cyngor, a mamau a thadau go iawn yn rhannu awgrymiadau ar sut i ymdopi.  Gallwch gofrestru os ydych chi’n feichiog, yn ddarpar dad neu’n rhieni’n barod, trwy fynd i wefan   Gwasanaeth Gwybodaeth y GIG i Rieni. https://www.nhs.uk/InformationServiceForParents/pages/home.aspx

Darllenwch gopi o gylchlythyr diweddaraf Cyngor ar Bopeth ar wefan CAB

Cerdyn SIM yn helpu rhieni i amddiffyn plant rhag bwlio

Bydd rhieni'n gallu rheoli ffôn symudol eu plant diolch i gerdyn SIM sy'n cael ei reoli gan gyfrifiadur o bell.  Bydd y system Bemilo, yn cael ei redeg ar rwydwaith Vodafone ac yn cynnig gwasanaeth i rieni i atal eu plant rhag fynd ar-lein, anfon negeseuon testun neu ffonio yn ystod amserau penodol.  Yn wahanol i app, ni fydd y plentyn yn gallu troi'r gwasanaeth i ffwrdd. Dywedodd Sefydliad Rhianta a Theuluoedd y DG y byddai'r SIM yn helpu i warchod plant rhag bwlio trwy ffôn symudol.

I gael y gwasanaeth, byddai angen i rieni brynu "pecyn diogelwch" sy'n cynnwys cerdyn SIM a'i osod ar ffôn y plentyn ar sail talu wrth ddefnyddio o £2.95 y mis.

Darllenwch yr erthygl llawn ar wefan y BBC.

Darllen rhagor o wybodaeth am Bemilo

 

British Heart Foundation

Mae gan elusen y galon y DG tri gweithgaredd codi arian llawn hwyl ar gyfer athrawon, arweinwyr ieuenctid a gweithwyr i'w helpu i ddangos i blant bod cadw'n heini ac yn iach yn gallu bod yn hwyl tra'n codi arian i'w hysgol, meithrinfa neu grwp ieuenctid.

Mae'r gweithgareddau ffantastig hyn yn addas i blant o bob gallu.  Maen nhw'n hawdd i'w trefnu ac mae pob peth sydd ei angen i drefnu digwyddiad llwyddiannus a llawn hwyl ar gael.  Dewiswch o 'Artie's Olympics', 'Ultimate Dodgeball' neu 'Jump Rope for Heart'.   Mae cit am ddim, adnoddau i athrawon a ffurflenni nawdd ar gael am ddim.

Ewch i'w gwefan Everyone Wins, neu ffoniwch 01892 893 913 neu anfonwch neges e-bost youngfun@bhf.org.uk

Lleihau eich biliau gwresogi a diogelu'r amgylchedd

Mae'r gaeaf ar ei ffordd - cyfnod pan fydd ein meddyliau'n troi at gost a pha mor ddibynadwy yw ein systemau gwresogi, ac ystyried adnewyddu'r boeler.

Gallwch leihau eich biliau gwresogi a gorfod dibynnu ar danwydd ffosil prin a drud, ac ar yr un pryd helpu'r amgylchedd, trwy ddewis system wresogi adnewyddadwy.  Mae'r Llywodraeth yn cynnig grantiau o hyd at £1250 tan 31 Mawrth 2013 i helpu tuag at y gost o osod systemau gwresogi gwyrdd megis pympiau gwres, boeleri biomass a phaneli solar thermol yn eich cartref.

Am wybodaeth ar sut i wneud cais ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni  neu ffoniwch  0300 123 1234

Trwy glicio ar y dolenni isod cewch wybodaeth am eich arian, eich iechyd chi ac iechyd eich plant, tyfu i fyny o enedigaeth i 18 oed, a chyngor a chymorth cyffredinol.  O daflenni i fideos mae pob math o wybodaeth yma i chi.

Arian

Iechyd

Tyfu i fyny

 

Cyngor a Chymorth

Facebook - Bwrdd Iechyd
Facebook - cael y newyddion diweddaraf gan y Bwrdd Iechyd ar yr achosion o'r frech goch.